5 Ond roedd y goeden hon yn dalachna'r coed o'i chwmpas i gyd.Canghennau mawr a brigau hirion,a'i gwreiddiau'n lledu at y dŵr.
6 Roedd yr adar i gyd yn nythu yn ei brigau,a'r anifeiliaid gwyllt yn geni rhai bach dan ei changhennau.Roedd y gwledydd mawr i gydyn byw dan ei chysgod.
7 Roedd yn rhyfeddol o hardd,gyda changhennau hirion;a'i gwreiddiau'n ymestyn yn ddwfnat ddigonedd o ddŵr.
8 Doedd coed cedrwydd eraill gardd Duwddim yn cystadlu â hi.Doedd canghennau'r coed pinwyddddim byd tebyg;a'r coed planwydd yn ddimo'u cymharu â hi.Doedd dim un o goed gardd Duwmor hardd â hon!
9 Fi wnaeth hi'n harddgyda'i holl ganghennau.Roedd coed Eden i gyd,coed gardd Duw, yn genfigennus ohoni.
10 “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am ei bod hi mor falch ohoni ei hun, mor aruthrol dal gyda'i brigau uchaf yn y cymylau,
11 rhois hi yn nwylo arweinydd y cenhedloedd, i'w chosbi am ei drygioni. Dw i wedi ei thaflu hi i ffwrdd.