9 Fi wnaeth hi'n harddgyda'i holl ganghennau.Roedd coed Eden i gyd,coed gardd Duw, yn genfigennus ohoni.
10 “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am ei bod hi mor falch ohoni ei hun, mor aruthrol dal gyda'i brigau uchaf yn y cymylau,
11 rhois hi yn nwylo arweinydd y cenhedloedd, i'w chosbi am ei drygioni. Dw i wedi ei thaflu hi i ffwrdd.
12 Mae byddin estron y wlad fwya creulon wedi ei thorri i lawr a'i gadael i orwedd ar y mynyddoedd. Mae ei changhennau'n gorwedd ar chwâl yn y dyffrynnoedd a'r ceunentydd. Mae pawb oedd yn cysgodi oddi tani wedi ffoi pan gafodd ei thaflu i ffwrdd.
13 Mae'r adar i gyd yn clwydo ar ei boncyff marw, a'r anifeiliaid gwyllt yn cerdded dros ei changhennau.
14 “‘Digwyddodd hyn i stopio i unrhyw goeden arall dyfu mor dal nes bod ei brigau uchaf yn y cymylau. Byddan nhw i gyd, fel pobl feidrol, yn marw yn nyfnder y ddaear. Byddan nhw'n ymuno gyda phawb arall sydd yn y Pwll.
15 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan aeth Asyria i lawr i'r bedd, roedd y dyfnder yn galaru amdani. Dyma fi'n dal yr afonydd yn ôl oddi wrthi. Gwisgais Libanus mewn du, a gwneud i'r coed eraill i gyd wywo.