11 Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd cleddyf brenin Babilon yn ymosod arnat ti.
12 Bydda i'n gwneud i gleddyfau milwyr cryfionladd dy fyddin enfawr di –nhw ydy'r milwyr mwyaf creulon sydd.Byddan nhw'n torri balchder yr Aifft,a bydd ei byddin enfawr yn cael ei dinistrio.
13 Bydd yr anifeiliaid sy'n pori ar lan y dŵryn cael eu lladd i gyd.Fydd y dŵr ddim yn cael ei faeddu etogan draed dynol na charnau anifeiliaid.
14 Bydd y dŵr drwy'r Aifft yn glir,a'r afonydd yn llifo'n llyfn fel olew.“Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
15 Pan fydda i'n troi gwlad yr Aifft yn anialwchac yn dinistrio popeth sydd ynddi;Pan fydda i'n lladd pawb sy'n byw yno,byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD.
16 “Dyma'r gân angladdol fyddan nhw'n ei chanu. Bydd merched y gwledydd i gyd yn ei chanu ac yn galaru am yr Aifft a'i byddin enfawr.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
17 Ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pymthegfed diwrnod o'r un mis, dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD.