17 Ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pymthegfed diwrnod o'r un mis, dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD.
18 “Ddyn, uda dros fyddin yr Aifft. ‘I lawr â hi! I lawr â hi at drefi a dinasoedd y gwledydd pwerus eraill sydd yn nyfnder y ddaear. I lawr â hi gyda phawb sy'n mynd i'r Pwll!’
19 Wyt ti'n harddach na'r gwledydd eraill? Na!Dos i lawr i orwedd gyda'r gwledydd paganaidd.
20 Byddi'n gorwedd gyda phawb arallsydd wedi eu lladd mewn rhyfel!Mae'r cleddyf yn barod i'w taro nhw;bydd yr Aifft a'i byddin yn cael eu llusgo i ffwrdd.
21 Bydd arweinwyr grymus y gwledyddyn gwawdio'r Aifft a'i chefnogwyr:‘Dyma nhw wedi cyrraedd,i orwedd gyda'r paganiaid eraillsydd wedi eu lladd gan y cleddyf.’
22 “Mae brenin Asyria yna, a beddau ei fyddin enfawr ym mhobman. Pob un wedi ei ladd gan y cleddyf.
23 Mae eu beddau yn gorchuddio llethrau dyfnaf y Pwll, ac mae ei chefnogwyr o'i chwmpas. Ie, dyma nhw, y rhai oedd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd!