19 Wyt ti'n harddach na'r gwledydd eraill? Na!Dos i lawr i orwedd gyda'r gwledydd paganaidd.
20 Byddi'n gorwedd gyda phawb arallsydd wedi eu lladd mewn rhyfel!Mae'r cleddyf yn barod i'w taro nhw;bydd yr Aifft a'i byddin yn cael eu llusgo i ffwrdd.
21 Bydd arweinwyr grymus y gwledyddyn gwawdio'r Aifft a'i chefnogwyr:‘Dyma nhw wedi cyrraedd,i orwedd gyda'r paganiaid eraillsydd wedi eu lladd gan y cleddyf.’
22 “Mae brenin Asyria yna, a beddau ei fyddin enfawr ym mhobman. Pob un wedi ei ladd gan y cleddyf.
23 Mae eu beddau yn gorchuddio llethrau dyfnaf y Pwll, ac mae ei chefnogwyr o'i chwmpas. Ie, dyma nhw, y rhai oedd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd!
24 “Mae Elam yna, a beddau ei byddin enfawr hithau ym mhobman. Pob un wedi ei ladd gan y cleddyf. Hwythau'n baganiaid wedi mynd i lawr i ddyfnder y ddaear, ond ar un adeg yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll!
25 Mae hithau'n gorffwys gyda'r meirw, a beddau ei byddin enfawr ym mhobman. Paganiaid wedi eu lladd gan y cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll!