28 A byddi dithau, y Pharo, yn gorwedd wedi dy dorri gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf!
29 “Mae Edom yna, gyda'i brenhinoedd a'i phenaethiaid i gyd. Er eu bod mor gryf ar un adeg, maen nhw'n gorwedd gyda'r rhai sydd wedi eu lladd gan y cleddyf. Maen nhw'n gorwedd gyda'r paganiaid eraill sydd wedi mynd i lawr i'r Pwll.
30 “Mae arweinwyr gwledydd y gogledd yno i gyd, a'r Sidoniaid. Y rhai oedd yn codi dychryn bellach yn gorwedd mewn cywilydd gyda'r meirw – gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf. Maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll.
31 “Bydd y Pharo yn eu gweld, ac yn cael ei gysuro mai nid ei fyddin enfawr e oedd yr unig un i gael ei lladd gan y cleddyf,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
32 “Er fy mod wedi eu defnyddio nhw i godi dychryn ar bawb drwy'r byd, bydd y Pharo a'i fyddin yn gorwedd gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.