10 “Ddyn, dyma rwyt ti i'w ddweud wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi bod yn dweud, “Mae hyn i gyd yn digwydd am ein bod ni wedi gwrthryfela ac wedi pechu. Mae wedi darfod arnon ni. Pa obaith sydd?”’
11 Wel, dywed wrthyn nhw, ‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, dydy gweld pobl ddrwg yn marw yn rhoi dim pleser i mi. Byddai'n well gen i iddyn nhw newid eu ffyrdd a chael byw. Dewch bobl Israel, trowch gefn ar eich drygioni. Pam ddylech chi farw?’
12 “Ddyn, dywed wrth dy bobl, ‘Fydd daioni y bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn ddim yn eu hachub nhw pan fyddan nhw'n gwrthryfela. A fydd drygioni pobl ddrwg ddim yn eu condemnio nhw os gwnân nhw newid eu ffyrdd a stopio gwneud drwg. Fydd yr holl bethau da mae rhywun wedi ei gwneud ddim yn ei achub os ydy e'n dewis pechu wedyn.’
13 Os dw i'n dweud wrth rywun sy'n gwneud beth sy'n iawn ei fod yn cael byw ac mae e'n dewis pechu wedyn, bydd yr holl bethau da wnaeth e yn cael eu hanghofio. Bydd e'n marw am ei fod wedi pechu.
14 Ond os ydw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a hwnnw wedyn yn troi cefn ar ei bechod a gwneud beth sy'n iawn ac yn dda
15 (Os bydd e'n talu'n ôl beth gafodd ei roi iddo'n ernes, yn rhoi beth mae wedi ei ddwyn yn ôl, yn cadw'r deddfau sy'n rhoi bywyd ac yn peidio pechu) bydd e'n cael byw. Fydd e ddim yn marw.
16 Bydd y pechodau wnaeth e yn cael eu hanghofio. Mae e'n gwneud beth sy'n iawn ac yn dda, a bydd e'n cael byw.”