2 “Ddyn, dywed hyn wrth dy bobl, ‘Pan dw i'n gadael i fyddin ymosod ar wlad, mae pobl y wlad honno'n dewis un o'i plith i fod yn wyliwr.
3 Mae'n gweld byddin y gelyn yn dod ac yn chwythu'r corn hwrdd i rybuddio'r bobl.
4 Os ydy pobl yn clywed y corn hwrdd ond yn cymryd dim sylw, nhw fydd ar fai pan gân nhw eu lladd.
5 Roedden nhw wedi clywed y corn hwrdd, ond ei anwybyddu. Arnyn nhw mae'r bai. Petaen nhw wedi gwrando bydden nhw'n dal yn fyw.
6 Ond beth petai'r gwyliwr heb ganu'r corn hwrdd i rybuddio'r bobl pan welodd y fyddin yn dod? Mae rhywun yn cael ei ladd. Mae'r person hwnnw'n marw am ei fod e'i hun wedi pechu, ond bydda i'n dal y gwyliwr yn gyfrifol am achosi iddo gael ei ladd.
7 “Ddyn, ti dw i wedi ei benodi yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i'n rhoi neges i ti.
8 Pan dw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a tithau ddim yn ei rybuddio fod rhaid iddo newid ei ffyrdd, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu a bydda i yn dy ddal di'n gyfrifol ei fod wedi marw.