28 Bydda i'n troi'r wlad yn anialwch diffaith. Bydd ei balchder yn ei grym yn dod i ben. Bydd mynyddoedd Israel mor anial, fydd neb yn cerdded drostyn nhw.’
29 Byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n troi'r wlad yn anialwch diffaith o achos yr holl bethau ffiaidd maen nhw wedi eu gwneud.
30 “Ddyn, mae dy bobl yn siarad amdanat ti o gwmpas y ddinas ac ar y stepen drws, ac yn dweud wrth ei gilydd, ‘Dewch i wrando ar y neges gan yr ARGLWYDD.’
31 Mae tyrfa ohonyn nhw'n dod ac yn eistedd o dy flaen di. Maen nhw'n gwrando ond dŷn nhw ddim yn gweithredu. Dŷn nhw ddim yn gwneud beth dw i'n ddweud. Maen nhw'n gofyn am fwy ond gwneud arian ac elwa ar draul pobl eraill ydy eu hobsesiwn nhw.
32 Adloniant ydy'r cwbl iddyn nhw. Ti fel canwr yn canu caneuon serch. Mae gen ti lais hyfryd ac rwyt ti'n offerynnwr medrus. Maen nhw'n gwrando ond dŷn nhw ddim yn gweithredu.
33 Pan fydd y cwbl yn dod yn wir – ac mae'n mynd i ddigwydd – byddan nhw'n gwybod fod proffwyd wedi bod gyda nhw.”