11 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i fy hun am fynd allan i chwilio am fy nefaid. A dw i'n mynd i ddod o hyd iddyn nhw.
12 Fel mae bugail yn chwilio am ei braidd pan maen nhw wedi mynd ar chwâl, bydda i'n dod o hyd i'm praidd i. Bydda i'n eu hachub nhw o ble bynnag aethon nhw ar y diwrnod tywyll, stormus hwnnw.
13 Dw i'n mynd i ddod â nhw adre o'r gwledydd eraill; dod â nhw yn ôl i'w tir eu hunain. Dw i'n mynd i adael iddyn nhw bori ar fryniau a dyffrynnoedd Israel, ble bynnag mae porfa iddyn nhw.
14 Ydw, dw i'n mynd i roi porfa iddyn nhw ar ben bryniau Israel. Byddan nhw'n gorwedd mewn porfa hyfryd ac yn bwydo ar laswellt cyfoethog bryniau Israel.
15 Dw i fy hun yn mynd i ofalu amdanyn nhw, a rhoi lle iddyn nhw orwedd i lawr, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
16 Dw i'n mynd i chwilio am y rhai sydd ar goll, a dod â'r rhai sydd wedi crwydro yn ôl adre. Dw i'n mynd i rwymo briwiau y rhai sydd wedi eu hanafu, a helpu'r rhai sy'n wan. Ond bydd y rhai cyfoethog a chryf yn cael eu dinistrio. Bydda i'n gofalu eu bod nhw'n cael beth maen nhw'n ei haeddu!
17 “‘Ie, dyma beth mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi'r defaid: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall, a rhwng yr hyrddod a'r bychod geifr.