17 “‘Ie, dyma beth mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi'r defaid: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall, a rhwng yr hyrddod a'r bychod geifr.
18 Ydy bwydo ar borfa dda ddim digon i chi? Oes rhaid i chi sathru gweddill y borfa hefyd? Wrth yfed y dŵr glân oes rhaid i chi faeddu gweddill y dŵr drwy sathru'r mwd?
19 Pam ddylai gweddill fy nefaid i orfod bwyta'r borfa sydd wedi ei sathru gynnoch chi ac yfed dŵr sydd wedi ei faeddu?
20 “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng y defaid tewion a'r defaid tenau.
21 Dych chi'r rhai cryfion wedi gwthio'r rhai gwan o'r ffordd. Dych chi wedi eu cornio nhw a'i gyrru nhw i ffwrdd.
22 Ond dw i'n mynd i achub fy nefaid. Fyddan nhw ddim yn cael eu cam-drin o hyn ymlaen. Ydw, dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall.
23 “‘Dw i'n mynd i apwyntio un bugail i ofalu amdanyn nhw, sef fy ngwas Dafydd. Bydd e yn fugail arnyn nhw.