7 “‘Felly, chi fugeiliaid, dyma neges yr ARGLWYDD i chi:
8 Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr, mae fy nefaid yn cael eu llarpio gan anifeiliaid gwylltion am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Mae'r bugeiliaid wedi gofalu amdanyn nhw eu hunain yn lle mynd i edrych am y defaid.
9 Felly, chi fugeiliaid, dyma neges yr ARGLWYDD i chi:
10 Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dweud, “Dw i yn erbyn y bugeiliaid! Dw i'n ei dal nhw'n gyfrifol, a fyddan nhw ddim yn cael gofalu am y praidd o hyn ymlaen. Na, fydd dim mwy o ofalu am neb ond nhw eu hunain! Gân nhw ddim bwyta'r defaid eto; bydda i'n achub y defaid o'i gafael nhw.”
11 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i fy hun am fynd allan i chwilio am fy nefaid. A dw i'n mynd i ddod o hyd iddyn nhw.
12 Fel mae bugail yn chwilio am ei braidd pan maen nhw wedi mynd ar chwâl, bydda i'n dod o hyd i'm praidd i. Bydda i'n eu hachub nhw o ble bynnag aethon nhw ar y diwrnod tywyll, stormus hwnnw.
13 Dw i'n mynd i ddod â nhw adre o'r gwledydd eraill; dod â nhw yn ôl i'w tir eu hunain. Dw i'n mynd i adael iddyn nhw bori ar fryniau a dyffrynnoedd Israel, ble bynnag mae porfa iddyn nhw.