1 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2 “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Edom, a proffwydo yn ei herbyn.
3 Dywed wrthi, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Edom.Dw i'n mynd i dy daro di'n galed,a dy droi di yn anialwch diffaith!
4 Bydda i'n gwneud dy drefi'n adfeilion.Byddi fel anialwch!A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
5 “‘Rwyt ti bob amser wedi casáu pobl Israel. Roeddet ti'n ymosod arnyn nhw gyda'r cleddyf pan oedden nhw mewn trafferthion, pan o'n i eisoes wedi eu cosbi nhw.
6 Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, gan dy fod ti mor hoff o dywallt gwaed mae lladdfa ar ei ffordd i ti!