10 Bydd dy boblogaeth yn tyfu drwy'r wlad i gyd. Bydd pobl yn byw yn dy drefi, a'r adfeilion yn cael eu hadeiladu.
11 Bydd y wlad yn fwrlwm o fywyd eto – pobl ac anifeiliaid yn magu rhai bach. Bydd pobl yn byw ynot ti unwaith eto, a bydd pethau'n well arnat ti nag erioed o'r blaen. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
12 Bydda i'n dod â'm pobl Israel yn ôl i bob rhan o'r wlad. Byddan nhw'n etifeddu'r tir. A fyddi di ddim yn cymryd eu plant oddi arnyn nhw byth eto.
13 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae pobl yn cael hwyl ar dy ben di, ac yn dweud, “Mae Israel yn wlad sy'n dinistrio ei phobl ei hun – fydd dim plant ar ôl yno!”
14 Ond fyddwch chi ddim yn dinistrio'ch pobl a cholli'ch plant o hyn ymlaen, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
15 Fydda i ddim yn gadael i'r gwledydd eraill eich sarhau chi. Fydd dim rhaid i chi deimlo cywilydd o flaen pawb. Fyddwch chi ddim yn colli eich plant.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
16 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: