21 Roeddwn i'n poeni am fy enw da. Roedd yn cael ei sarhau gan bobl Israel ble bynnag roedden nhw'n mynd.
22 “Felly dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i ddim yn gwneud hyn er eich mwyn chi, bobl Israel, ond er mwyn cadw fy enw da – yr enw dych chi wedi ei sarhau ym mhobman.
23 Dw i'n mynd i ddangos mor wych ydy fy enw i – yr enw dych chi wedi ei sarhau ym mhobman. Bydd y gwledydd i gyd yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD. Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn dangos yn glir iddyn nhw mor wych ydw i.
24 “‘Bydda i'n eich casglu chi a dod â chi allan o'r gwledydd i gyd, a mynd â chi yn ôl i'ch gwlad eich hunain.
25 Bydda i'n taenellu dŵr glân arnoch chi, a byddwch chi'n cael eich glanhau o bopeth sy'n eich gwneud chi'n aflan, ac yn stopio addoli eilun-dduwiau.
26 Bydda i'n rhoi calon newydd i chi, ac yn rhoi ysbryd newydd i chi. Byddai'n cymryd y galon garreg ystyfnig i ffwrdd ac yn rhoi calon newydd dyner i chi.
27 Dw i'n mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, i wneud yn siŵr eich bod chi'n ufudd i mi ac yn gwneud beth sy'n iawn.