24 “‘Bydda i'n eich casglu chi a dod â chi allan o'r gwledydd i gyd, a mynd â chi yn ôl i'ch gwlad eich hunain.
25 Bydda i'n taenellu dŵr glân arnoch chi, a byddwch chi'n cael eich glanhau o bopeth sy'n eich gwneud chi'n aflan, ac yn stopio addoli eilun-dduwiau.
26 Bydda i'n rhoi calon newydd i chi, ac yn rhoi ysbryd newydd i chi. Byddai'n cymryd y galon garreg ystyfnig i ffwrdd ac yn rhoi calon newydd dyner i chi.
27 Dw i'n mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, i wneud yn siŵr eich bod chi'n ufudd i mi ac yn gwneud beth sy'n iawn.
28 Wedyn byddwch chi'n cael byw yn y wlad rois i i'ch hynafiaid chi. Chi fydd fy mhobl i, a fi fydd eich Duw chi.
29 Bydda i'n eich achub chi o ganlyniadau'r holl bethau aflan wnaethoch chi. Byddai'n gwneud i'r caeau roi cnydau mawr i chi, yn lle anfon newyn arnoch chi.
30 Bydd digonedd o ffrwythau'n tyfu ar y coed, a bydd cnydau'r caeau i gyd yn llwyddo. Fyddwch chi byth eto'n gorfod cywilyddio am fod y gwledydd o'ch cwmpas chi'n eich gweld chi'n diodde o newyn.