35 Bydd pobl yn dweud, “Mae'r wlad yma oedd yn anial wedi troi i fod fel gardd Eden unwaith eto. Mae'r trefi oedd yn adfeilion wedi eu hadeiladu eto, ac mae pobl yn byw ynddyn nhw!”
36 Bydd y gwledydd sydd ar ôl o'ch cwmpas chi yn sylweddoli mai fi sydd wedi achosi i'r trefi gael eu hadeiladu ac i'r tir gael ei drin unwaith eto. Fi ydy'r ARGLWYDD, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd!’
37 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i adael i bobl Israel ofyn i mi wneud hyn iddyn nhw. Bydd yna gymaint o bobl ag sydd o ddefaid yn y wlad!
38 Bydd fel yr holl ddefaid sy'n cael eu cymryd i'w haberthu yn Jerwsalem adeg y gwyliau crefyddol! Bydd yr holl drefi oedd yn adfeilion yn llawn pobl unwaith eto! A bydd pawb yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”