6 “Felly dw i eisiau i ti broffwydo am wlad Israel, a dweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y dyffrynnoedd a'r ceunentydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n wyllt gyda'r gwledydd yna am dy fod ti wedi gorfod eu diodde nhw'n dy fychanu di.
7 Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n addo i ti – mae ei tro nhw i gael eu bychanu yn dod!
8 “‘Ond bydd dy ganghennau di yn tyfu, Israel fynyddig, a bydd ffrwythau'n pwyso'n drwm arnyn nhw; ffrwythau ar gyfer fy mhobl, Israel. Byddan nhw'n dod yn ôl adre'n fuan!
9 Gwranda, dw i ar dy ochr di. Dw i'n mynd i dy helpu di. Bydd y tir yn cael ei aredig eto, a chnydau'n cael eu plannu.
10 Bydd dy boblogaeth yn tyfu drwy'r wlad i gyd. Bydd pobl yn byw yn dy drefi, a'r adfeilion yn cael eu hadeiladu.
11 Bydd y wlad yn fwrlwm o fywyd eto – pobl ac anifeiliaid yn magu rhai bach. Bydd pobl yn byw ynot ti unwaith eto, a bydd pethau'n well arnat ti nag erioed o'r blaen. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
12 Bydda i'n dod â'm pobl Israel yn ôl i bob rhan o'r wlad. Byddan nhw'n etifeddu'r tir. A fyddi di ddim yn cymryd eu plant oddi arnyn nhw byth eto.