15 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
16 “Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd ffon, ac ysgrifennu arni, ‘Jwda a holl bobl Israel sydd gydag e.’ Yna cymer ffon arall, ac ysgrifennu arni hi, ‘ffon Joseff, sef Effraim, a holl bobl Israel sydd gydag e.’
17 Dal nhw gyda'i gilydd yn dy law, fel un ffon.
18 Yna pan fydd dy bobl yn gofyn, ‘Wyt ti am esbonio i ni beth rwyt ti'n wneud?’
19 Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i gymryd y ffon sy'n cynrychioli Joseff a'r llwythau sydd gydag e, a'i chysylltu hi gyda ffon Jwda. Byddan nhw'n un ffon yn fy llaw i.’
20 Dal y ffyn rwyt ti wedi ysgrifennu arnyn nhw o'u blaenau,
21 a dweud fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i gasglu pobl Israel o'r gwledydd lle'r aethon nhw. Dw i'n mynd i'w casglu nhw o'r gwledydd hynny, a dod â nhw adre i'w gwlad eu hunain.