2 Gwnaeth i mi gerdded o gwmpas drwy'i canol nhw, yn ôl ac ymlaen. Roedden nhw ym mhobman! Esgyrn sychion ar lawr y dyffryn i gyd.
3 Yna gofynnodd i mi, “Ddyn, oes gobaith i'r esgyrn yma ddod yn ôl yn fyw eto?” A dyma fi'n ateb, “Meistr, ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gwybod hynny.”
4 Yna dyma fe'n gofyn i mi broffwydo dros yr esgyrn, a dweud wrthyn nhw: “Esgyrn sychion, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD.
5 Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi anadl ynoch chi, a dod â chi yn ôl yn fyw.
6 Dw i'n mynd i roi cnawd arnoch chi, gewynnau a chyhyrau, a rhoi croen amdanoch chi. Wedyn bydda i'n rhoi anadl ynoch chi, a byddwch chi'n dod yn ôl yn fyw. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”
7 Felly, dyma fi'n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i. Ac wrth i mi wneud hynny dyma fi'n clywed sŵn ratlo, a dyma'r esgyrn yn dod at ei gilydd, pob un yn ôl i'w le.
8 Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld gewynnau a chyhyrau'n dod arnyn nhw, a chroen yn ffurfio amdanyn nhw, ond doedd dim anadl ynddyn nhw.