25 “‘Byddan nhw'n byw yn y tir rois i i'm gwas Jacob, lle roedd eu hynafiaid yn byw. Byddan nhw'n cael byw yno, a'u plant, a'u disgynyddion am byth. Fy ngwas Dafydd fydd eu pennaeth nhw am byth.
26 Bydda i'n gwneud ymrwymiad i roi heddwch iddyn nhw – ymrwymiad fydd yn para am byth. Bydda i'n eu setlo nhw yn y tir, yn gwneud i'r boblogaeth dyfu eto, a gosod y deml yn eu canol nhw am byth.
27 Bydda i'n byw gyda nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.
28 Pan fydd fy nheml yn eu canol nhw am byth, bydd y cenhedloedd yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi cysegru Israel i mi fy hun.’”