7 Felly, dyma fi'n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i. Ac wrth i mi wneud hynny dyma fi'n clywed sŵn ratlo, a dyma'r esgyrn yn dod at ei gilydd, pob un yn ôl i'w le.
8 Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld gewynnau a chyhyrau'n dod arnyn nhw, a chroen yn ffurfio amdanyn nhw, ond doedd dim anadl ynddyn nhw.
9 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Proffwyda i'r anadl ddod. Ddyn, proffwyda a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Tyrd anadl, o'r pedwar gwynt. Anadla ar y cyrff yma, iddyn nhw ddod yn ôl yn fyw.’”
10 Felly, dyma fi'n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i a dyma nhw'n dechrau anadlu. Roedden nhw'n fyw! A dyma nhw'n sefyll ar eu traed, yn un fyddin enfawr.
11 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, pobl Israel ydy'r esgyrn yma. Maen nhw'n dweud, ‘Does dim gobaith! – dŷn ni wedi'n taflu i ffwrdd, fel esgyrn sychion.’
12 Ond dw i eisiau i ti broffwydo a dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i agor eich beddau, a dod â chi allan yn fyw! O fy mhobl, dw i'n mynd i'ch arwain chi yn ôl i wlad Israel!
13 Pan fydda i'n agor eich beddau a dod â chi allan, byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.