14 “Felly ddyn, proffwyda a dywed wrth Gog: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny, pan fydd fy mhobl Israel yn teimlo'n saff, bydd rhywbeth yn tynnu dy sylw.
15 Byddi'n gadael dy wlad yn y gogledd pell, ac yn dod gyda tyrfa enfawr – dy gafalri a dy fyddin fawr.
16 Byddi'n dod fel cwmwl du dros y wlad. Ac yn y dyfodol pan fydd hyn yn digwydd, Gog, bydd y gwledydd i gyd yn cydnabod pwy ydw i. Bydd beth fydd yn digwydd i ti, Gog, yn dangos yn glir iddyn nhw mor wych ydw i.
17 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ai ti ydy'r un gwnes i sôn amdano yn y gorffennol drwy fy ngweision y proffwydi yn Israel? Roedden nhw'n proffwydo yn bell yn ôl, flwyddyn ar ôl blwyddyn, y byddwn i'n dod â ti yn eu herbyn nhw.
18 “‘“Y diwrnod hwnnw, pan fydd Gog yn ymosod ar wlad Israel, bydda i wedi cynhyrfu, a gwylltio'n lân.
19 Bydd tân fy ffyrnigrwydd yn llosgi. Bydd daeargryn yn ysgwyd gwlad Israel bryd hynny.
20 Bydd pawb a phopeth yn crynu mewn ofn o'm blaen i – pysgod, adar, anifeiliaid gwylltion, creaduriaid bach a phryfed, a phob person byw! Bydd y mynyddoedd yn cael eu bwrw i lawr, y clogwyni'n dryllio a pob wal sydd wedi ei hadeiladu yn syrthio.