2 “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Gog o dir Magog, sef y tywysog sy'n teyrnasu dros Meshech a Twbal. Proffwyda yn ei erbyn,
3 a dweud: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Gog, tywysog Meshech a Twbal.
4 Dw i'n mynd i dy droi di rownd, rhoi bachyn yn dy ên, a dy arwain di a dy fyddin i ryfel – gyda dy geffylau a dy farchogion arfog, yn dyrfa enfawr yn cario tariannau mawr a bach ac yn chwifio eu cleddyfau.
5 Bydd byddinoedd Persia, dwyrain Affrica a Libia gyda nhw. Hwythau hefyd wedi eu harfogi gyda thariannau a helmedau.
6 Hefyd Gomer a'i byddin, a Beth-togarma o'r gogledd pell, a llawer o bobloedd eraill.
7 “‘“Bydd barod – ti a phawb arall sydd gyda ti. Ti sydd i arwain.
8 Ar ôl amser hir, byddi'n cael dy alw i wlad Israel. Gwlad wedi ei hadfer ar ôl cael ei dinistrio gan ryfel. Gwlad â'i phobl wedi eu casglu at ei gilydd ar y mynyddoedd oedd wedi bod yn anial am amser hir. Pobl wedi dod adre ac yn teimlo'n saff yn eu gwlad.