6 Hefyd Gomer a'i byddin, a Beth-togarma o'r gogledd pell, a llawer o bobloedd eraill.
7 “‘“Bydd barod – ti a phawb arall sydd gyda ti. Ti sydd i arwain.
8 Ar ôl amser hir, byddi'n cael dy alw i wlad Israel. Gwlad wedi ei hadfer ar ôl cael ei dinistrio gan ryfel. Gwlad â'i phobl wedi eu casglu at ei gilydd ar y mynyddoedd oedd wedi bod yn anial am amser hir. Pobl wedi dod adre ac yn teimlo'n saff yn eu gwlad.
9 Byddi'n ymosod arnyn nhw fel storm. Byddi di a dy fyddin, a byddinoedd yr holl wledydd eraill, fel cwmwl du yn dod dros y wlad.”
10 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny byddi di'n cael syniad, ac yn cynllwynio i wneud drwg.
11 “Dw i am ymosod ar Israel. Gwlad o drefi heb waliau na giatiau a barrau i'w hamddiffyn! Fydd ei phobl ddim yn disgwyl y peth; maen nhw'n teimlo mor saff!
12 Dw i'n mynd i ysbeilio a rheibio'r bobl sydd wedi eu casglu at ei gilydd o'r gwledydd, yn byw lle roedd adfeilion, yn ffermio gwartheg a marchnata, ac yn meddwl mai nhw ydy canolbwynt y byd!”