8 Ar ôl amser hir, byddi'n cael dy alw i wlad Israel. Gwlad wedi ei hadfer ar ôl cael ei dinistrio gan ryfel. Gwlad â'i phobl wedi eu casglu at ei gilydd ar y mynyddoedd oedd wedi bod yn anial am amser hir. Pobl wedi dod adre ac yn teimlo'n saff yn eu gwlad.
9 Byddi'n ymosod arnyn nhw fel storm. Byddi di a dy fyddin, a byddinoedd yr holl wledydd eraill, fel cwmwl du yn dod dros y wlad.”
10 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny byddi di'n cael syniad, ac yn cynllwynio i wneud drwg.
11 “Dw i am ymosod ar Israel. Gwlad o drefi heb waliau na giatiau a barrau i'w hamddiffyn! Fydd ei phobl ddim yn disgwyl y peth; maen nhw'n teimlo mor saff!
12 Dw i'n mynd i ysbeilio a rheibio'r bobl sydd wedi eu casglu at ei gilydd o'r gwledydd, yn byw lle roedd adfeilion, yn ffermio gwartheg a marchnata, ac yn meddwl mai nhw ydy canolbwynt y byd!”
13 Bydd Sheba a Dedan a marchnatwyr Tarshish yn gofyn, “Wyt ti wedi dod i ysbeilio? Wyt ti wedi casglu dy fyddin i reibio'r wlad – cymryd yr arian a'r aur, y gwartheg a phopeth arall sydd ganddyn nhw?”’
14 “Felly ddyn, proffwyda a dywed wrth Gog: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny, pan fydd fy mhobl Israel yn teimlo'n saff, bydd rhywbeth yn tynnu dy sylw.