1 “Ddyn, proffwyda yn erbyn Gog, a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti Gog, tywysog Meshech a Twbal!
2 Dw i'n mynd i dy droi di rownd, a dy lusgo di o'r gogledd pell i ymosod ar fynyddoedd Israel.
3 Ond wedyn bydda i'n taro'r bwa o dy law dde a'r saethau o dy law chwith.
4 Byddi di a dy filwyr, a phawb arall sydd gyda ti, yn syrthio'n farw ar fynyddoedd Israel. Byddi'n fwyd i bob math o adar rheibus ac anifeiliaid gwylltion.
5 Byddi'n disgyn yn farw ar dir agored. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.