14 “‘Ar ddiwedd y saith mis bydd criwiau o ddynion yn cael eu penodi i chwilio drwy'r wlad am unrhyw gyrff sydd wedi eu gadael ar ôl, a'u claddu nhw. Byddan nhw gwneud yn siŵr fod y tir wedi ei lanhau'n gyfan gwbl.
15 Pan fydd un o'r dynion yn dod o hyd i asgwrn dynol byddan nhw'n marcio'r fan gydag arwydd er mwyn i'r rhai sy'n eu claddu ei gymryd i ffwrdd a'i gladdu yn y fynwent dorfol yn Nyffryn Hamon-Gog.
16 (Bydd tref o'r enw Hamona yno hefyd.) Byddan nhw'n glanhau y tir.’
17 “A ti, ddyn, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Galw'r adar a'r anifeiliaid gwylltion at ei gilydd. Dywed wrthyn nhw, “Dewch yma. Dw i wedi paratoi lladdfa – gwledd i chi ar fynyddoedd Israel! Dewch i fwyta eu cnawd ac yfed eu gwaed.
18 Cewch fwyta cyrff milwyr ac yfed gwaed penaethiaid y gwledydd – hyrddod, ŵyn, bychod geifr, teirw, a lloi wedi eu pesgi yn Bashan.
19 Byddwch yn stwffio eich hunain ar frasder, ac yn meddwi ar waed yn y wledd dw i wedi ei pharatoi i chi.
20 Byddwch yn dod at fy mwrdd ac yn gwledda ar gnawd ceffylau a marchogion, arwyr a milwyr o bob math,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.