2 Dw i'n mynd i dy droi di rownd, a dy lusgo di o'r gogledd pell i ymosod ar fynyddoedd Israel.
3 Ond wedyn bydda i'n taro'r bwa o dy law dde a'r saethau o dy law chwith.
4 Byddi di a dy filwyr, a phawb arall sydd gyda ti, yn syrthio'n farw ar fynyddoedd Israel. Byddi'n fwyd i bob math o adar rheibus ac anifeiliaid gwylltion.
5 Byddi'n disgyn yn farw ar dir agored. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.
6 Bydda i'n anfon tân ar Magog a'r bobl sy'n byw ar yr arfordir, ac sy'n teimlo eu bod nhw mor saff. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
7 Dw i ddim yn mynd i adael i fy enw sanctaidd i gael ei sarhau o hyn allan. A bydd y cenhedloedd yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel.
8 “‘Mae'n dod! Ydy, mae'n mynd i ddigwydd!’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Dyma'r diwrnod soniais i amdano.