1 “Ddyn, cymer fricsen fawr, ei gosod o dy flaen a thynnu llun map o ddinas Jerwsalem arni.
2 Wedyn gwna fodel o fyddin yn gwarchae arni: waliau gwarchae, ramp, gwersylloedd milwyr ac offer fel hyrddod rhyfel o'i chwmpas.
3 Yna cymer badell haearn, a'i gosod i fyny fel wal haearn rhyngot ti a'r ddinas. Wedyn gwylia hi, drwy'r amser, fel taset ti'n gwarchae arni. Mae beth fyddi di'n wneud yn rhybudd i bobl Israel.
4 “Yna dw i eisiau i ti orwedd ar dy ochr chwith am dri chant naw deg diwrnod. Byddi'n dioddef wrth orfod cario baich pechod pobl Israel
5 (diwrnod am bob blwyddyn maen nhw wedi pechu). Wedyn ar ôl i ti gario baich pechod pobl Israel,
6 gorwedd ar dy ochr dde am bedwar deg diwrnod. Byddi'n cario baich pechod pobl Jwda (sef diwrnod am bob blwyddyn eto).