3 Yna cymer badell haearn, a'i gosod i fyny fel wal haearn rhyngot ti a'r ddinas. Wedyn gwylia hi, drwy'r amser, fel taset ti'n gwarchae arni. Mae beth fyddi di'n wneud yn rhybudd i bobl Israel.
4 “Yna dw i eisiau i ti orwedd ar dy ochr chwith am dri chant naw deg diwrnod. Byddi'n dioddef wrth orfod cario baich pechod pobl Israel
5 (diwrnod am bob blwyddyn maen nhw wedi pechu). Wedyn ar ôl i ti gario baich pechod pobl Israel,
6 gorwedd ar dy ochr dde am bedwar deg diwrnod. Byddi'n cario baich pechod pobl Jwda (sef diwrnod am bob blwyddyn eto).
7 “Dal ati i wylio'r model o'r gwarchae ar Jerwsalem. Torcha dy lewys, a proffwyda yn erbyn y ddinas.
8 Bydda i'n dy rwymo di gyda rhaffau, a byddi'n methu symud na throi drosodd nes bydd dyddiau'r gwarchae drosodd.
9 “Wedyn cymer ŷd, haidd, ffa, ffacbys, miled a sbelt, a'u cadw mewn llestr gyda'i gilydd. Defnyddia'r cymysgedd i wneud bara i ti dy hun. Dyna fyddi di'n ei fwyta pan fyddi'n gorwedd ar dy ochr am dri chant naw deg diwrnod.