8 Bydda i'n dy rwymo di gyda rhaffau, a byddi'n methu symud na throi drosodd nes bydd dyddiau'r gwarchae drosodd.
9 “Wedyn cymer ŷd, haidd, ffa, ffacbys, miled a sbelt, a'u cadw mewn llestr gyda'i gilydd. Defnyddia'r cymysgedd i wneud bara i ti dy hun. Dyna fyddi di'n ei fwyta pan fyddi'n gorwedd ar dy ochr am dri chant naw deg diwrnod.
10 Dim ond wyth owns y dydd fyddi di'n ei gael i'w fwyta, a hynny yr un amser bob dydd.
11 Wedyn ychydig dros hanner litr o ddŵr i'w yfed – hwnnw eto i'w yfed yr un amser bob dydd.
12 Gwna rywbeth fel bara haidd fflat ohono, a defnyddio carthion dynol wedi eu sychu yn danwydd i'w bobi o flaen pawb.
13 Gwna hyn fel darlun symbolaidd o'r ffaith y bydd pobl Israel yn bwyta bwyd sy'n aflan ar ôl cael eu gyrru i ganol y gwledydd paganaidd.”
14 “O, na! ARGLWYDD, Meistr, Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n ‛aflan‛ o'r blaen – fel carcas anifail oedd wedi marw ohono'i hun, neu un gafodd ei ladd gan anifeiliaid gwylltion, neu unrhyw gig sy'n ‛aflan‛.”