12 Roedd wal fach hanner metr o daldra o flaen pob un o'r cilfachau, a'r cilfachau eu hunain yn dri metr sgwâr.
13 Yna mesurodd led y fynedfa o'r to uwchben wal gefn un gilfach i'r to uwchben wal gefn y gilfach gyferbyn â hi. Roedd yn un deg tri metr.
14 Mesurodd y colofnau i gyd (o du blaen y fynedfa i gwrt y deml), ac roedden nhw'n dri deg un metr a hanner o uchder.
15 Mesurodd y pellter o du blaen y fynedfa i du blaen yr ystafell gyntedd fewnol. Roedd yn ddau ddeg chwech metr.
16 Roedd yna ffenestri cul yn waliau cilfachau'r gwarchodwyr ac o gwmpas yr ystafell gyntedd. Ac roedd y colofnau wedi eu haddurno gyda coed palmwydd.
17 Yna aeth â fi allan i gwrt allanol y deml. Roedd yna bafin o gwmpas yr iard, a tri deg o ystafelloedd o gwmpas y pafin.
18 Roedd y pafin yn cysylltu'r giatiau, ac roedd yr un lled a'r giatiau eu hunain. Dyma'r pafin isaf.