19 Yna dyma fe'n mesur y pellter rhwng y tu mewn i'r giât isaf a tu blaen yr iard fewnol. Roedd yn bum deg dau metr a hanner.Aeth â fi wedyn o'r ochr ddwyreiniol i'r ochr ogleddol.
20 Mesurodd hyd a lled y fynedfa i'r iard allanol sy'n wynebu'r gogledd.
21 Roedd y cilfachau (tair bob ochr), y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un fath â'r giât gyntaf: dau ddeg chwech metr o hyd ac un deg tri metr o led.
22 Roedd y ffenestri, yr ystafell gyntedd a'r coed palmwydd yr un fath ag yn y giât ddwyreiniol. Roedd saith gris i fyny at y giât ac roedd ystafell gyntedd ar yr ochr fewnol.
23 Roedd giât arall i'r iard fewnol gyferbyn a'r fynedfa ar yr ochr ogleddol, fel gyda'r fynedfa ddwyreiniol. Mesurodd y pellter o'r naill i'r llall ac roedd yn bum deg dau metr a hanner.
24 Yna aeth â fi i'r ochr ddeheuol. Mesurodd y colofnau a'r cilfachau ar y giât ddeheuol ac roedden nhw yr un faint a'r lleill.
25 Roedd y ffenestri yno a'r ffenestri yn yr ystafell gyntedd yr un fath â'r lleill, ac roedd hyd a lled y fynedfa yr un fath hefyd, sef dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr.