33 Roedd y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un faint â'r lleill; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn ddau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr.
34 Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât.
35 Yna aeth â fi at y giât ogleddol, a'i mesur. Roedd yr un faint â'r lleill –
36 y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn mesur dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr.
37 Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât.
38 Roedd drws i mewn i ystafell arall wrth ymyl ystafell y cyntedd. Dyma lle roedd yr offrymau i'w llosgi yn cael eu golchi.
39 Yn ystafell gyntedd y fynedfa roedd dau fwrdd bob ochr, lle roedd yr anifeiliaid ar gyfer y gwahanol offrymau yn cael eu lladd – yr offrwm i'w losgi, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai.