39 Yn ystafell gyntedd y fynedfa roedd dau fwrdd bob ochr, lle roedd yr anifeiliaid ar gyfer y gwahanol offrymau yn cael eu lladd – yr offrwm i'w losgi, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai.
40 Roedd byrddau tu allan i'r ystafell gyntedd hefyd, dau bob ochr i'r grisiau sy'n mynd at fynedfa'r gogledd.
41 Felly roedd wyth bwrdd i gyd – pedwar y tu allan i'r fynedfa a pedwar y tu mewn – lle roedd yr anifeiliaid i'w haberthu yn cael eu lladd.
42 Roedd y pedwar bwrdd ar gyfer yr offrymau i'w llosgi wedi eu cerfio o garreg. Roedden nhw tua wyth deg centimetr sgwâr, a hanner can centimetr o uchder. Roedd yr offer oedd yn cael ei ddefnyddio i ladd yr anifeiliaid yn cael eu hongian ar
43 fachau 75 milimetr o hyd oedd ar y waliau o gwmpas. Roedd cyrff yr anifeiliaid oedd i'w haberthu i'w gosod ar y byrddau.
44 Y tu allan i'r giât yn yr iard fewnol roedd dwy ystafell – un wrth ochr y giât ogleddol yn wynebu'r de, a'r llall wrth ochr y giât ddeheuol yn wynebu'r gogledd.
45 A dyma'r dyn yn dweud wrtho i, “Ystafell yr offeiriaid sy'n gofalu am y deml ydy'r un sy'n wynebu'r de,