42 Roedd y pedwar bwrdd ar gyfer yr offrymau i'w llosgi wedi eu cerfio o garreg. Roedden nhw tua wyth deg centimetr sgwâr, a hanner can centimetr o uchder. Roedd yr offer oedd yn cael ei ddefnyddio i ladd yr anifeiliaid yn cael eu hongian ar
43 fachau 75 milimetr o hyd oedd ar y waliau o gwmpas. Roedd cyrff yr anifeiliaid oedd i'w haberthu i'w gosod ar y byrddau.
44 Y tu allan i'r giât yn yr iard fewnol roedd dwy ystafell – un wrth ochr y giât ogleddol yn wynebu'r de, a'r llall wrth ochr y giât ddeheuol yn wynebu'r gogledd.
45 A dyma'r dyn yn dweud wrtho i, “Ystafell yr offeiriaid sy'n gofalu am y deml ydy'r un sy'n wynebu'r de,
46 ac ystafell yr offeiriaid sy'n gofalu am yr allor ydy'r un sy'n wynebu'r gogledd. Disgynyddion Sadoc ydy'r dynion yma, sef yr unig rai o ddisgynyddion Lefi sy'n cael mynd yn agos at yr ARGLWYDD i'w wasanaethu e.”
47 Yna mesurodd yr iard. Roedd yn bum deg dau metr a hanner sgwâr, gyda'r allor yn sefyll o flaen y deml.
48 Aeth â fi at gyntedd y deml ei hun a mesur ei dwy golofn. Roedden nhw tua dau fetr a hanner sgwâr. Roedd y giât yn saith metr o led a'r waliau bob ochr yn fetr a hanner o drwch.