14 Hefyd roedd lled y deml a'r iard sydd ar wahân ar yr ochr ddwyreiniol iddi yn bum deg dau metr a hanner.
15 Yna mesurodd hyd yr adeilad oedd yn wynebu'r iard sydd ar wahân tu cefn i'r deml gyda'r galeri bob ochr, ac roedd yn bum deg dau metr a hanner.Roedd tu mewn y cysegr allanol a'r cyntedd oedd yn wynebu'r cwrt
16 wedi eu panelu mewn pren i gyd. Roedd pob trothwy, y ffenestri culion a'r galerïau ar y tair ochr oedd yn wynebu'r trothwy wedi eu panelu o'r llawr at y ffenestri. O gwmpas y ffenestri,
17 ar y wal sydd uwch ben y fynedfa i'r cysegr mewnol ac ar y tu allan a'r tu mewn i'r cysegr mewnol ei hun
18 roedd y cwbl wedi ei addurno gyda ceriwbiaid a choed palmwydd. Roedd coeden balmwydd a ceriwb bob yn ail. Roedd gan bob ceriwb ddau wyneb –
19 wyneb dyn ac wyneb llew. Roedd y rhain wedi eu cerfio dros y deml i gyd.
20 Roedden nhw'n addurno'r cysegr allanol i gyd, o'r llawr i'r darn o wal sydd uwch ben y fynedfa i'r cysegr mewnol.