2 Roedd y fynedfa ei hun yn bum metr a chwarter, ac roedd y waliau bob ochr yn ddau fetr a hanner o drwch. Roedd y cysegr allanol yn ddau ddeg un metr o hyd a deg metr a hanner o led.
3 Yna aeth y dyn i mewn i'r cysegr mewnol. Mesurodd y colofnau bob ochr i'r fynedfa yn fetr o led, y fynedfa ei hun yn dri metr, a'r waliau bob ochr i'r fynedfa yn dri metr a hanner.
4 Roedd yr ystafell yn ddeg metr a hanner sgwâr, ar ben pella'r cysegr allanol. “Dyma'r Lle Mwyaf Sanctaidd,” meddai wrtho i.
5 Yna mesurodd wal y deml, ac roedd hi'n dri metr o drwch. Roedd pob un o'r ystafelloedd ochr o gwmpas y deml yn ddau fetr o led.
6 Roedd yr ystafelloedd ochr ar dri llawr, tri deg ar bob llawr. Roedd y trawstiau o dan yr ystafelloedd yma yn gorwedd ar siliau o gwmpas y wal. Doedden nhw ddim wedi eu gosod yn wal y deml ei hun.
7 Roedd yr ystafelloedd ar y llawr canol yn lletach na'r rhai ar y llawr isaf, a'r rhai ar llawr uchaf yn lletach eto. Roedd grisiau yn arwain o'r llawr isaf i'r llawr uchaf drwy'r llawr canol.
8 Roedd y deml wedi ei hadeiladu ar deras tri metr o uchder, ac roedd y teras yma'n rhoi sylfaen i'r ystafelloedd ochr.