23 Roedd drysau dwbl i mewn i'r cysegr allanol ac i'r cysegr mewnol,
24 gyda'r drysau'n agor at allan ac i mewn.
25 Roedd ceriwbiaid a choed palmwydd wedi eu cerfio ar ddrysau'r cysegr allanol, yr un fath â'r rhai ar y waliau. Ac roedd canopi pren uwch ben y cyntedd y tu allan.
26 Roedd ffenestri culion gyda coed palmwydd bob ochr iddyn nhw yn addurno waliau'r cyntedd. Roedd canopïau uwch ben ystafelloedd ochr y deml hefyd.