9 Roedd wal allanol yr ystafelloedd ochr dros ddau fetr a hanner o drwch. Roedd lle agored rhwng ystafelloedd ochr y deml
10 a'r ystafelloedd ar wal allanol yr iard fewnol; roedd y lle agored yma o gwmpas y deml i gyd ac yn ddeg metr a hanner o led.
11 Roedd dau ddrws o bob ystafell ochr i'r lle agored – un yn wynebu'r gogledd a'r llall yn wynebu'r de. Roedd dau fetr a hanner o deras o gwmpas y cwbl.
12 Roedd yr adeilad oedd yn wynebu'r iard sydd ar wahân ar ochr orllewinol y deml yn dri deg saith metr o led. Roedd wal allanol yr adeilad yn ddau fetr a hanner o drwch ac yn bedwar deg saith metr o hyd.
13 Yna mesurodd y deml ei hun. Roedd yn bum deg dau metr a hanner o hyd, ac roedd yr iard sydd ar wahân o'i chwmpas yn bum deg dau metr a hanner arall.
14 Hefyd roedd lled y deml a'r iard sydd ar wahân ar yr ochr ddwyreiniol iddi yn bum deg dau metr a hanner.
15 Yna mesurodd hyd yr adeilad oedd yn wynebu'r iard sydd ar wahân tu cefn i'r deml gyda'r galeri bob ochr, ac roedd yn bum deg dau metr a hanner.Roedd tu mewn y cysegr allanol a'r cyntedd oedd yn wynebu'r cwrt