1 Yna aeth y dyn â fi i'r iard allanol, i'r ochr ogleddol. Roedd bloc o ystafelloedd yno gyferbyn â'r iard sydd ar wahân ac wrth ymyl yr adeilad ger y wal ogleddol.
2 Roedd yn bum deg dau metr a hanner o hyd ac yn ddau ddeg chwech metr a chwarter o led.
3 Roedd y bloc yma o ystafelloedd yn edrych dros yr iard fewnol oedd yn ddeg metr a hanner o led un ochr, a dros bafin yr iard allanol ar yr ochr arall. Roedd wedi ei adeiladu ar dri llawr.
4 O flaen yr ystafelloedd roedd llwybr pum metr a chwarter o led a pum deg dau metr a hanner o hyd. Roedd eu drysau'n wynebu'r gogledd.
5 Roedd yr ystafelloedd ar y llawr uchaf yn fwy cul, am fod y galerïau yn cymryd mwy o le nag ar y llawr isaf a'r llawr canol.