12 Roedd y drysau'n wynebu'r de, ac roedd mynedfa i'r ystafelloedd ar yr ochr ddwyreiniol.
13 A dyma'r dyn yn dweud wrtho i: “Mae'r ystafelloedd yma i'r gogledd a'r de, ac sy'n wynebu'r iard sydd ar wahân, yn ystafelloedd sydd wedi eu cysegru. Dyna lle mae'r offeiriaid sy'n mynd at yr ARGLWYDD yn bwyta'r offrymau sanctaidd. Dyna lle byddan nhw'n gosod yr offrymau – yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r ystafelloedd yma wedi eu cysegru i'r pwrpas hwnnw.
14 Dydy'r offeiriaid ddim i fynd yn syth allan o'r cysegr i'r iard allanol. Rhaid iddyn nhw dynnu'r dillad cysegredig maen nhw wedi bod yn gweinidogaethu ynddyn nhw a gwisgo dillad eraill cyn mynd allan i ble mae'r bobl yn cael mynd.”
15 Ar ôl iddo orffen mesur y tu mewn i adeiladau'r deml, aeth y dyn â fi allan drwy'r giât ddwyreiniol a mesur y tu allan i'r cwbl.
16 Defnyddiodd ei ffon fesur ar yr ochr ddwyreiniol ac roedd yn ddau gant chwe deg dau metr a hanner.
17-19 Yna mesurodd yr ochr ogleddol, yr ochr ddeheuol a'r ochr orllewinol, ac roedden nhw i gyd yr un faint.
20 Mesurodd y wal ar y pedair ochr. Roedd yn ddau cant chwe deg dau metr a hanner bob ffordd. Roedd y waliau yma'n gwahanu'r cysegredig oddi wrth y cyffredin.