4 O flaen yr ystafelloedd roedd llwybr pum metr a chwarter o led a pum deg dau metr a hanner o hyd. Roedd eu drysau'n wynebu'r gogledd.
5 Roedd yr ystafelloedd ar y llawr uchaf yn fwy cul, am fod y galerïau yn cymryd mwy o le nag ar y llawr isaf a'r llawr canol.
6 Am eu bod ar dair lefel, a heb golofnau i'w cynnal fel yr ystafelloedd yn yr iard, roedd yr ystafelloedd uwch wedi eu gosod yn bellach yn ôl na'r rhai oddi tanyn nhw.
7 Roedd wal dau ddeg chwech metr o hyd rhwng yr ystafelloedd a'r iard allanol.
8 Roedd y bloc o ystafelloedd oedd yn wynebu'r iard allanol yn ddau ddeg chwech metr o hyd, ond y rhai oedd yn wynebu'r deml yn bum deg dau metr a hanner.
9 Roedd mynedfa i'r ystafelloedd isaf o'r iard allanol ar yr ochr ddwyreiniol.
10 Ar yr ochr ddeheuol ar hyd wal yr iard allanol roedd bloc arall o ystafelloedd gyferbyn â'r iard sydd ar wahân ac wrth ymyl yr adeilad ger y wal ogleddol.