1 Yna aeth â fi at y giât oedd yn wynebu'r dwyrain.
2 Yno gwelais ysblander Duw Israel yn dod o gyfeiriad y dwyrain. Roedd ei sŵn yn debyg i sŵn rhaeadr ac roedd ei ysblander yn goleuo'r ddaear i gyd.
3 Roedd yr un fath â'r weledigaeth ges i pan ddaeth e i ddinistrio'r ddinas, a'r un pan oeddwn i wrth Gamlas Cebar. Dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr.
4 A dyma ysblander yr ARGLWYDD yn mynd yn ôl i mewn i'r deml drwy'r giât oedd yn wynebu'r dwyrain.
5 Yna cododd yr ysbryd fi a mynd â fi i'r iard fewnol. A dyna lle roeddwn i yn syllu ar ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml.
6 A dyma fi'n clywed llais yn siarad â mi o adeilad y deml. (Roedd y dyn yn dal i sefyll wrth fy ymyl i.)