18 Wedyn dyma fe'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dyma'r rheolau am yr offrymau i'w llosgi a'r gwaed sydd i'w sblasio ar yr allor pan fydd wedi ei hadeiladu.
19 Rhaid rhoi tarw ifanc yn offrwm i lanhau o bechod i'r offeiriaid o lwyth Lefi sy'n ddisgynyddion Sadoc ac sy'n dod ata i i'm gwasanaethu i.
20 Dylid cymryd peth o'r gwaed a'i roi ar bedwar corn yr allor, ar bedair cornel y sil a reit rownd yr ymyl. Bydd yn ei gwneud yn lân ac yn iawn i'w defnyddio.
21 Wedyn rhaid cymryd corff y tarw sy'n offrwm i lanhau o bechod a'i losgi yn y lle iawn tu allan i'r cysegr.
22 “‘Yna ar yr ail ddiwrnod rhaid offrymu bwch gafr sydd â dim o'i le arno yn offrwm i lanhau o bechod. Byddan nhw'n glanhau yr allor, fel y gwnaethon nhw cyn offrymu'r tarw.
23 Ar ôl ei glanhau, rhaid offrymu tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno a hefyd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno.
24 Rhaid eu cyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid yn taenu halen arnyn nhw, ac yna ei rhoi nhw yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.