6 A dyma fi'n clywed llais yn siarad â mi o adeilad y deml. (Roedd y dyn yn dal i sefyll wrth fy ymyl i.)
7 Dwedodd y llais: “Ddyn, dyma lle mae fy ngorsedd i a'r lle i mi orffwys fy nhraed. Bydda i'n byw yma gyda phobl Israel am byth. Fydd pobl Israel a'u brenhinoedd ddim yn sarhau fy enw sanctaidd i eto drwy eu puteindra ysbrydol na thrwy godi cofgolofnau i'w brenhinoedd pan fyddan nhw'n marw.
8 Wrth adeiladu eu palasau drws nesa i'm teml i, gyda dim byd ond wal denau yn eu gwahanu nhw, roedden nhw'n sarhau fy enw sanctaidd i drwy'r pethau ffiaidd roedden nhw'n eu gwneud. Felly dyma fi'n eu difa nhw pan oeddwn i'n ddig.
9 Ond nawr rhaid i'r puteinio ysbrydol stopio a rhaid i'r cofgolofnau brenhinol fynd, a wedyn bydda i'n byw gyda nhw am byth.
10 “Beth dw i eisiau i ti ei wneud, ddyn, ydy disgrifio'r deml rwyt ti wedi ei gweld i bobl Israel, er mwyn iddyn nhw fod â chywilydd o'u pechod. Gwna iddyn nhw astudio'r cynllun yn fanwl
11 wedyn bydd ganddyn nhw gywilydd go iawn o beth wnaethon nhw. Dangos gynllun y deml i gyd iddyn nhw – pob mynedfa a drws, y cyfarwyddiadau a'r rheolau i gyd. Tynna lun manwl o'r cwbl iddyn nhw, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn deall y cynllun ac yn cadw'n ffyddlon ato.
12 “A dyma beth sydd raid ei ddeall am y deml – mae'n hollol sanctaidd! Mae top y mynydd i gyd, lle mae'r deml i gael ei hadeiladu, wedi ei gysegru'n llwyr. Mae hon yn egwyddor gwbl sylfaenol.”