9 Ond nawr rhaid i'r puteinio ysbrydol stopio a rhaid i'r cofgolofnau brenhinol fynd, a wedyn bydda i'n byw gyda nhw am byth.
10 “Beth dw i eisiau i ti ei wneud, ddyn, ydy disgrifio'r deml rwyt ti wedi ei gweld i bobl Israel, er mwyn iddyn nhw fod â chywilydd o'u pechod. Gwna iddyn nhw astudio'r cynllun yn fanwl
11 wedyn bydd ganddyn nhw gywilydd go iawn o beth wnaethon nhw. Dangos gynllun y deml i gyd iddyn nhw – pob mynedfa a drws, y cyfarwyddiadau a'r rheolau i gyd. Tynna lun manwl o'r cwbl iddyn nhw, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn deall y cynllun ac yn cadw'n ffyddlon ato.
12 “A dyma beth sydd raid ei ddeall am y deml – mae'n hollol sanctaidd! Mae top y mynydd i gyd, lle mae'r deml i gael ei hadeiladu, wedi ei gysegru'n llwyr. Mae hon yn egwyddor gwbl sylfaenol.”
13 “A dyma fesuriadau'r allor: Mae ei gwter i fod yn bum deg dwy centimetr a hanner o ddyfnder ac yn bum deg dwy centimetr a hanner o led, gydag ymyl o tua dau ddeg centimetr o'i chwmpas. Uchder yr allor ei hun
14 o'r llawr i'r sil isaf yn un metr, a lled y sil yn bum deg dwy centimetr a hanner. Yna o'r sil gyntaf i'r ail sil, mae'n ddau fetr arall, a lled y sil honno eto yn bum deg dwy centimetr a hanner.
15 Wedyn mae top yr allor yn ddau fetr arall eto, gyda corn yn codi o'r pedair cornel.