12 Am eu bod nhw wedi helpu'r bobl i addoli eilunod a gwneud i bobl Israel faglu a pechu yn fy erbyn i, ar fy llw, bydd rhaid iddyn nhw wynebu canlyniadau eu pechod, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
13 Fyddan nhw ddim yn cael dod yn agos ata i i wasanaethu fel offeiriaid, na chyffwrdd dim byd dw i wedi ei gysegru. Bydd rhaid iddyn nhw fyw gyda'r cywilydd o fod wedi mynd trwy'r holl ddefodau ffiaidd yna.
14 Byddan nhw'n gweithio fel gofalwyr y deml ac yn gwneud yr holl waith cynnal a chadw ynddi.
15 “‘Ond bydd yr offeiriaid o lwyth Lefi sy'n ddisgynyddion Sadoc, yn cael dod ata i a gwasanaethu fel offeiriaid. Roedden nhw wedi dal ati i wneud eu gwaith yn ffyddlon yn y deml pan oedd gweddill pobl Israel wedi troi cefn arna i a mynd i addoli eilunod. Byddan nhw'n dod i gyflwyno brasder a gwaed yr aberthau i mi.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
16 “‘Byddan nhw'n dod i mewn i'r cysegr i weini wrth fy mwrdd i a gwneud eu dyletswyddau.
17 “‘Pan fyddan nhw'n dod i mewn trwy giatiau'r iard fewnol rhaid iddyn nhw wisgo dillad o liain. Dŷn nhw ddim i wisgo gwlân o gwbl pan maen nhw'n gwasanaethu yn yr iard fewnol neu yn adeilad y Deml ei hun.
18 Rhaid iddyn nhw wisgo twrban o liain a dillad isaf o liain – dim byd fyddai'n gwneud iddyn nhw chwysu.