20 “‘Rhaid iddyn nhw dorri eu gwallt yn rheolaidd – peidio siafio eu pennau, na thyfu eu gwallt yn rhy hir.
21 Dydy offeiriad ddim i yfed gwin cyn mynd i mewn i'r iard fewnol.
22 Dŷn nhw ddim i briodi gwraig weddw na gwraig sydd wedi cael ysgariad, dim ond un o ferched Israel sy'n wyryf neu wraig weddw oedd yn briod ag offeiriad o'r blaen.
23 Byddan nhw'n dysgu'r bobl i wahaniaethu rhwng beth sy'n gysegredig a beth sy'n gyffredin, a dangos iddyn nhw sut i wahaniaethu rhwng beth sy'n aflan ac yn lân.
24 “‘Pan mae pobl yn mynd ag achos i'r llys, yr offeiriaid fydd yn barnu ac yn gwneud yn union beth dw i'n ddweud. Byddan nhw'n cadw'r deddfau a'r rheolau am y Gwyliau a'r dyddiau Saboth dw i wedi eu trefnu.
25 “‘Rhaid iddyn nhw beidio gwneud eu hunain yn aflan drwy fynd yn agos at gorff marw, ac eithrio corff tad, mam, mab, merch, brawd neu chwaer.
26 Pan fydd yr offeiriad yn lân eto bydd rhaid iddo ddisgwyl am saith diwrnod arall